Cymdeithas Brodwaith Cymru © 2025 Lluniwyd y wefan a’i chynnal gan H G Web Designs
Newyddion
Arddangosfa y Gogledd Ddwyrain, Rhuthun
Cwrs Plas Tan y Bwlch Mawrth 2023
Llwybrau oedd y testun eleni ar tiwtor oedd Ffion Gwyn. Roedd pawb wedi cael cyfarwyddyd i ddod a lluniau o eu hoff lwybr yr oeddynt yn ei
gerdded.
Fe gafodd pawb y cyfle i ddefnyddio inc a Phensiliau lliw i liwio darn o ddefnydd, bu i ni wneud 'brooches' o wahanol fathau gydag un darn. Roedd
pob un yn edrych yn ddeniadol iawn.
Yna Prynhawn Sadwrn bu i ni ddefnyddio y darn arall o ddefnydd i wneud ein llun gan ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau a pwytho gyda peiriant a
llaw. Bu pawb wrthi yn brysur yn pwytho, bwyta a chymdeithasu, roedd yn braf cael bod yn nol yn Plas Tanybwch i gwrdd a ffrindiau.
Penwythnos da gyda pawb yn mynd adre ar ol cinio dydd Sul wedi mwynhau yn fawr.
Arddangosfa Cymdeithas Brodwaith Dosbarth y Canolbarth gynhaliwyd yn y Morlan,
Aberystwyth 24ai o Fedi 2022
Roedd yma Arddangosfa wych o waith da ac wedi cael ei gosod allan yn gelfydd iawn yn nhrefn y tymhorau. Arbennig iawn.
Murlun yn Anrheg i Ysgol Godre’r Berwyn gan ddosbarth Cangen Meirionnydd
Daeth Ysgol y Berwyn yn Y Bala a dwy o ysgolion cynradd sef Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant i ben ddiwedd tymor yr Haf 2019, ac fe
agorwyd Ysgol Godre’r Berwyn fis Medi 2019 gan greu ysgol gydol oes ar gyfer disgyblion 3- 19 oed, ar hen safle Ysgol y Berwyn.
I ddathlu’r achlysur penderfynwyd ein bod fel dosbarth brodwaith o gangen Meirionnydd am rhoi murlun yn anrheg i’r ysgol ac fe fu amryw o'r
dosbarth yn brodio darnau o'r cynllun - mewn dull gwaith stwmp a brodio ar ddefnydd sy'n toddi mewn dwr.
Cefndir y cynllun yw'r pedwar tymor ar fynydd y Berwyn - wedi ei baentio ar galico a'i frodio a pheirant a changhennau'r goeden yn dangos
amryw o'r pynciau fydd y plant yn ddysgu yn yr ysgol.
Mae enw'r ysgol wedi ei weithio mewn les nodwydd a'r cyfan wedi'w fframio mewn ffram dderw.
Hyn i gyd dan ofal medrus ein tiwtor Mair Rees, gyda llawer iawn o ddiolch iddi am ei hamser i ddylunio a rhoi’r cyfan at ei gilydd.
Cyflwynwyd y murlun i brifathrawes yr ysgol Bethan Emyr Jones, roedd yn ddiolchgar iawn am y murlun, a byddai’r gwaith brodwaith yn cael
lle haeddianol iawn yn yr ysgol.
Llun 1af – aelodau Cymdeithas Brodwaith Y Bala gyfrannodd tuag wneud y Murlun
Llun ail - Cyflwyno'r Murlun i brifathrawes Bethan Emyr Jones, Ysgol Godre'r Berwyn, gyda Mair Rees,
tiwtor a Iola Williams, Cadeirydd Cangen Y Bala.
Llun 3ydd - Y Murlun
Lluniau drwy garedigrwydd Ffotograffydd Evan L Dobson, Y Bala
Crefftau a grewyd dros y cyfnod clo ac yn ystod y (18 mis diwethaf)
Aelodau Cymdeithas Brodwaith Cymru - Cangen Cricieth
Prosiect yw hwn sydd wedi ai drefnu gan Cyngor Tref Cricieth i adfer a chofio enwau caeau yr ardal sy’n brysur fynd yn angof dwi’n siwr.
Mae’r cwbl yn cael ei gydlynu gan Joyce ac mae’r dosbarth gwnio wrthi’n brysur yn brodio’r cyfan. Bydd cyfres o luniau, hefyd wedi eu
brodio, yn cynrychioli hanes Cricieth yn cael eu gosod o gwmpas y brodwaith.
Y gobaith yw y bydd y cyfanwaith yn cael ei arddangos yn lleol yn y flwyddyn newydd.
Dyma dri llun o waith crefft gan Rhiannon Evans, Cangen Y Bala
Gwaith Mair Rees, Cangen Y Bala
Dyma lun o'r bag bach fues i'n neud dros y cyfnod clo - 'Elizabethan ground stitch' mewn edau fetelaidd yw'r cefndir arian.
Gwaith Glesni Jones, Cangen Y Bala.
Crosio
Blanced - granny square (piws, melyn a gwyrdd)
Cwshin - sunburst granny square (gwyn, pinc a piws)
Cwshin zig zag puff stitch (brown golau a gwyn)
Cwningen - (llwyd a gwyn) - dilyn video ar youtube
Gwaith Medwen Charles - Cangen Y Bala
3 wennol ydynt mewn gwaith du. wrth gwrs roedd yn rhaid cael 3 wennol achos ni wnaith un wennol
Wanwyn!!
Sampler o wahanol Bwythau
Sampler yw hwn o wahanol bwythau yr ydym wedi ei ddysgu o dan law Mair Rees yn y gwersi Cymdeithas
Brodwaith. roedd dipyn o waith ar hwn - a roddodd oriau o bleser i mi ag erbyn ei orffen roeddym wedi
dysgu chwaneg o bwythau a thechnegau. hwn yn un arall o bethau a gofodd ei orffen yn ystod y cyfnod
clo!!
Clustog - pecyn oedd hwn a brynais rhai blynyddoedd yn nol - cefais amser dros y cyfnod clo i'w orffen.
Mae yn glustog lliwgar iawn. Patrwn 'pinwheel' ydio (ddim yn siwr be ydio yn gymraeg!!!)
Clustog 'Crazy Quilting' yw y patrwm yma.
Cwrs Preswyl yn Plas Tan y Bwlch
Cynhaliwyd Cwrs Preswyl yn Plas Tan y Bwlch ar y 9-10fed o Fawrth, 2019 o dan arweiniad Esyllt Jones.
Cafwyd cwrs ar 'crazy quilting' a dewisiodd y rhan fwyaf oedd yn bresennol wneud clustog, eraill llyfryn bach o bwythau, ac un neu
ddwy clawr llyfr. Defnyddiwyd amrywiaeth o bwythau i addurno, ar ddefnyddiau cotwm, melfed, brethyn neu sidan.
Cwrs Preswyl Plas Tan y Bwlch - 3-4 Mawrth 2018
Dyma fraslun o’r cwrs uchod dan ofal Esyllt Jones
Yn y lle cyntaf fe fydd cyfle i gyfuno pwythau i greu llyfyr cyfair pwythau efallai yna defnyddio'r pwythau i greu gwaith fel y glustog.
Defnyddir pob math o ddefnyddiau - gallant fod yn gotwm/ yn felfed/ yn frethyn/ neu sidan efallai. Ar ôl rhoi rhain ar gefndir priodol
yna pwytho a chreu "crazy quilting" a defnyddio amrywiaeth o bwythau i addurno.
Raffl Eisteddfod Ynys Mon
Enillydd Raffl Cymdeithas Brodwaith Cymru 2017 a dynnwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn oedd Mrs Alwen Prys Jones,
Llangybi.
Llongyfarchiadau mawr!
Dathlu 150 mlynedd
Eleni bydd llawer o ddathliadau yn cael eu cynnal i nodi 150 mlynedd oddi ar y Mimosa
hwylio o Lerpwl i Dde America ac i’r Cymry cyntaf lanio ym Mhorth Madryn yn
Archentina.
Penderfynodd y Gymdeithas lunio brodwaith i nodi’r achlysur. Joyce Jones gynlluniodd y
gwaith sy’n dangos hanes y Wladfa – Y Mimosa yn hwylio, yr ogof ym Morth Madryn lle y
credir i’r anturwyr orfod aros am beth amser cyn cael llety mwy parhaol, y tŷ cyntaf, y
capel cyntaf, y gamlas a’r trên cyntaf. Heb y rhain byddai wedi bod yn amhosibl byw
mewn lle mor anial. Gwelir y gacen ddu sy’n debyg i fara brith ond yn defnyddio’r unig
gynhwysion oedd ar gael ar y dechrau. Gwelir logo yr eisteddfod a’r ysgol Gymraeg. Y
prif nodwedd yw’r bwrdd te, rhywbeth y cysylltwn ni Gymry â’r Wladfa a’r hyn y mae
pobl Patagonia yn ei ystyried yn rhywbeth traddodiadol Gymreig. Pwythwyd enwau’r prif
drefi ac hefyd enwau’r rhai a fu bennaf gyfrifol am y fenter. Seiliwyd cynllun y plât, y
cwpan a’r soser ar batrwm plât Nantgarw sydd yn cael ei arddangos ym Mhlas Glyn y
Weddw, man arall sydd â chysylltiad â’r Wladfa.
Dosbarthodd Joyce y gwaith brodio i sawl aelod o’r Gymdeithas. Daeth y gwaith i ben
erbyn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr y llynedd a chafodd ei arddangos ar stondin y
Gymdeithas. Y gobaith yw y caiff y gwaith ei arddangos mewn nifer o ganolfannau yn y
Wladfa yn ystod y deunaw mis nesaf ac y caiff ei ddychwelyd maes o law a’i arddangos
yn barhaol yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Diolch i Joyce am ei chyfraniad i’r prosiect hwn eto ac am ei gwaith dyfal a graenus.
Clogyn Newydd Eisteddfod yr Urdd
Yn 2014 penderfynodd y brodweithwyr greu clogyn newydd ar gyfer seremoniau Eisteddfod yr Urdd. Mae’r clogyn i’w weld yn cael ei
ddefnyddio yn y prif seremoniau erbyn hyn – defnyddiwyd gwlanen Gymreig fel defnydd cefndir. Megan Williams y wniadwraig fedrus
o Drefor fu’n gyfrifol am y gwaith brodio peiriant ar y wlanen i greu’r gwead arbennig, cyn i aelodau Cangen Y Bala o dan arweiniad
Mair Rees fynd ati i weithio ar y cynllun, a grewyd gan Joyce Jones, Cricieth, sylfaenydd y Gymdeithas Frodwaith. Mae dau fathodyn
yr Urdd ar flaen y clogyn wedi’u brodio â thri gwahanol bwyth cynfas.
Gan fod y clogyn yn cael ei ddefnyddio mewn seremonïau’r gwahanol gystadlaethau – Y Fedal Gyfansoddi, Y Fedal Ddrama, Medal y
Dysgwyr, Y Goron a’r Gadair. Penderfynwyd ffeltio siap y bathodyn yn y lliwiau priodol a brodio delweddau’r cystadlaethau hyn arno.
Gosodwyd peipyn o frethyn coch yn forder i’r gwaith, a’i bwytho i’w le gydag edau werdd.
Brenda Wyn Jones 1924-2023
Bu farw ein Llywydd Cenedlaethol Brenda Wyn Jones ym mis Tachwedd 2023 yn 89 oed a dyma fraslun o’i
hanes.
Magwyd ac addysgwyd hi yn ardal Bethesda cyn iddi ennill ysgoloriaeth i fynd i Brifysgol Aberystwyth i
astudio Cymraeg a Cherdd gan raddio oddiyno â gradd dosbarth cyntaf yn 1954. Aeth ymlaen wedyn i ddysgu
yn ysgol Dr Williams, Dolgellau a thra yno dechrau dysgu chwarae’r delyn. Dyna hefyd pryd y cyfarfu â
Buckley Wyn Jones ddaeth yn ŵr iddi yn 1961. Ar ol ryw 6 mlynedd yn dysgu yng Nghaerdydd daeth y ddau yn
ol i Wynedd a Bethesda a bu Brenda yn dysgu yn ysgol Bodedern cyn cael ei phenodi yn ddarlithydd yn y
Gymraeg yng Ngholeg Normal, Bangor. Bu yno tan iddi ymddeol yn 1994.Wedi hynny bu’n addasu llyfrau
Saesneg i blant yn y Gymraeg - yn ei plith Tomos y Tanc ac hefyd yn ysgrifennu llyfrau ar gyfer plant.
Roedd ganddi lu o ddiddordebau yn cynnwys tenis (a Wimbledon yn arbennig), hefyd mynd ar fordeithiau,
sgïo a golygu’r papur bro “Llais Ogwan”.
Yn dilyn salwch creulon trodd at waith croesbwyth cain a bu’n un o sefydlwyr Cymdeithas Brodwaith Cymru
a dod yn Llywydd Cenedlaethol y Gymdeithas.
Disgrifir hi fel person unigryw, annwyl, clên, gostyngedig a chariadus gan eu chydnabod a’i theulu ac
estynnwn ein cydymdeimlad â hwythau yn eu galar.
Cylchlythyr
Mae Cylchlythyr Gaeaf 2023/24 ar gael i’w lawrlwytho yma.