Ysgoloriaeth y
Gymdeithas
Cymdeithas Brodwaith Cymru © 2025
Lluniwyd y wefan a’i chynnal gan H G Web Designs
Enillydd Ysgoloriaeth CBC 2023 - Lowri James,
Porth
Lowri James oedd enillydd Ysgoloriaeth Y Gymdeithas eleni (2023). Mae’n
dod o’r Porth yn y Rhondda ac ar ei blwyddyn gyntaf yn yr Ysgol Frenhinol
Gwniadwaith yn Llundain yn dilyn cwrs gradd pedair mlynedd. Cyn hynny
roedd wedi mynychu Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ac yna coleg y Cymoedd.
Brodwaith llaw yw’r cwrs ac mae wedi bod yn creu brodwaith ers pan oedd
yn 10 oed a dywed ei bod yn cael ei hysbrydoli gan ei Chymreictod - yn
arbennig hanes, chwedlau a barddoniaeth Gymraeg yn ogystal â’i chartref
yng Nghwm Rhondda. Creodd fap llawn brodwaith llynedd oedd yn
cynnwys delweddau oedd yn ei hatgoffa o’i chartref. Mae’n mwynhau
dylunio yn fwyaf ac yna wrth ei bodd yn creu gwaith gan ddefnyddio’r
technegau mae’n ddysgu yn y coleg. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn
ffasiwn ac yn hoffi cynnwys brodwaith yn ei gwaith yn y byd hwnnw gan
feddwl am ffyrdd i uwchgylchu ffasiwn mewn ffordd greadigol ac eco-
gyfeillgar.
Gan iddi ddysgu brodwaith mewn cymuned fechan hoffai’n fawr fynd ati i
rannu’r technegau arbennig yma gydag eraill mewn cymunedau bychain ac
mae ganddi ddiddordeb gweithio gyda brodwaith hanesyddol, mewn
amgueddfeydd yn arbennig.
Yr oedd y Gymdeithas yn unfrydol yn cytuno fod Lowri yn llawn haeddu’r
ysgoloriaeth eleni a dyfarnwyd rhoi y swm llawn o £500 iddi.
Ysgoloriaeth
Mae’r Gymdeithas yn cynnig ysgoloriaeth bob blwyddyn i fyfyriwr Cymraeg
sy’n mynd i goleg i ddilyn cwrs
tecstiliau. Gall yr ysgoloriaeth olygu hyd at £1000 a gellir rhannu os bydd
mwy nag un ymgeisydd yn deilwng.
Gellir rhoi cyfle i enillydd yr ysgoloriaeth arddangos ei waith ar stondin y
Mudiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gweler y ffurflen gais am weddill y manylion a sut i wneud cais -
llawrlwythwch yma.
Enillydd Ysgoloriaeth CBC 2018 - Elin Jones, Y
Felinheli.
Mae Elin yn astudio Textiliau Lefel 4 - ym Mhrifysgol Metropolotan
Caerdydd yn gweithio tuag at gradd BA (ANRH)
Dyma ychydig o’i hanes:
Rwyf wedi bod gyda diddordeb mewn gwaith llaw ers pan oeddwn yn
fychan ac wedi mwynhau cystadlu mewn eisteddfodau trwy gyfrwng
tscstiliau. Dechreuodd fy niddordeb yn gwylio Nain yn gwnio, a phan yn
hŷn byddwn yn hoffi ymlacio trwy wnio darnau bychan fy hun a gwneud
croesbwyth.
Rwyf ar fy mlwyddyn gyntaf yn dilyn cwrs tectiliau yng Nghaerdydd ar hyn
o bryd gan ddysgu sut i ddefnyddio’r peiriannau a’r adnoddau. Hyd yn
hyn, rwyf wedi mwynhau dysgu sut i ddefnyddio’r offer yn yr ystafell
brintio gan fod hwn yn brofiad newydd i mi. Rwyf hefyd yn mwynhau
cydweithio gyda pobl sydd ar fy nghwrs, er enghraifft bu i ni gynllunio
‘surface design’ ar gan frodweithio gyda pheirant. Fy hoff math o waith
llaw yw brodwaith, rwyf yn mwynhau tynnu llun gyda nodwydd ac edau.
Rhai o’r diddordebau eraill rwyf yn eu mwynhau yw braslunio, creu
lluniau ac yn eithaf diweddar rwyf wedi dechrau ar y grefft o
‘needlefelting’. Fy mreuddwyd yn y dyfodol fuasai cael busness fy hun yn
creu gemwaith trwy decstiliau wedi graddio.
Ennillydd Ysgoloriaeth Cymdeithas Brodwaith
Cymru 2016
Llongyfarchiadau i Gwen Lloyd Thomas enillodd Ysgoloriaeth Cymdeithas
Brodwaith Cymru eleni.
Merch fferm o ardal Padog, Betws-y-Coed yw Gwen. Aeth i ysgolion Ysbyty
Ifan a Dyffryn Conwy ac yna 'mlaen i Goleg Metropolitan Caerdydd i ddilyn
cwrs gradd BA Tecstiliau. Mae ar ei hail flwyddyn ac yn cael pleser mawr yn
arbrofi gyda thechnegau gwahanol yn defnyddio sawl math o ffabrig ac
offer. Ar hyn o bryd mae'n arbrofi gyda gwahanol fathau o brintio ar ffabrig
ac yna addurno a phwythau amrywiol. Mae hi'n hoff iawn o weithio a
pheiriant neu waith llaw.
Teimlai'n ddiolchgar iawn o dderbyn yr ysgoloriaeth. "Nawr," meddai hi,"
gallaf brynu rhannau arbennig at fy mheiriant gwnio fydd yn fy ngalluogi i
arbrofi ymhellach, a chael prynu ffabrigau arbennig at fy ngwaith"
Dymuniadau gorau iddi a hwyl ar y pwytho.
Ennillydd Ysgoloriaeth Cymdeithas
Brodwaith Cymru 2017
Enillydd yr ysgoloriaeth eleni yw Elin Anghard Evans o Benegoes,
Machynlleth. Mae yn fyfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn ym
mhrifysgol Celf a Dylunio Caerdydd yn astudio cwrs Artist, Designer
Maker. Mae'r cwrs yn un newydd ac yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr arbrofi a
phob agwedd o'r Ysgol Gelf drwy weithio gyda phren, metel, cerameg,
a thecstilau cyn cymryd eu llwybr eu hunain mewn defnydd penodol.
Tecstilau oedd yn cymryd ei bryd yn benodol erbyn yr ail flwyddyn,
lledr. Mae lledr yn ddefnydd unigryw iawn, mae'n gnawd, gyda'r gallu i
gael ei drawsnewid i bob ffurf, mae arbrofi gyda'r defnydd hwn yn
rhoi pleser mawr iddi. Yn anffodus nid yw lledr yn faes eang iawn,
roedd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r defnydd hwn.
Mae gweithio gyda lledr yn rhoi rhyddid iddi i fund ati i arbrofi, a
chymysgu defnyddiau eraill gyda lleder. Mae'n rhoi boddhad mawr
iddi weld ei dyluniadau 2D yn datblygu i mewn 3D.
Yn y dyfodol hoffai barhau i greu cynnyrch lledr o waith llaw, gan
arbrofi, ac yn y pen draw, creu cynnyrch unigryw gyda stamp ei hun
arno.
Adroddiad Lowri James ar gyfer Cymdeithas
Brodwaith Cymru.
Fy hoff ddarn o waith creais yn fy mlwyddyn gyntaf oedd top camisol, wedi
ysbrydoli gan batrymau a delweddau darganfodais ym mhalas ‘Hampton
Court’. Yn gyntaf darluniais ar safle’r palas, yn
dogfennu unrhyw ddelwedd ddiddorol ac yna creais y darluniad gan
gymysgu patrymau addurniadol gyda ffigwr cymerais o dapestri yn y
neuadd fawr. Dewisais i ddefnyddio gwlân yn bennaf, gan ddefnyddio’r
dechneg syml o ’couching’, weithiau yn defnyddio lliwiau cyferbyniol i dal
y gwlân i lawr. Hefyd defnyddiais edau peiriant gwinio ar gyfer rhannau
tywyllach yn y dyluniad. Yn y prosiect yma dysgais sut i ddefnyddio ffrâm
‘slate’ a hefyd sut i drawsnewid lluniad manwl a haenog yn frodwaith.
Un darn o’r cwrs wedi gwahanu o’r prosiectau creadigol yw gwersi pwyth
technegol lle mae rhaid
cyflawni pedwar ffrâm yn dangos pedwar techneg brodwaith gwahanol. Yn
y flwyddyn gyntaf mae’r technegau yn; pwythau craidd, ‘blackwork’,
‘raisedwork’, ‘goldwork’. Fy hoff dechneg i ddysgu oedd ‘blackwork’
oherwydd sut mae effaith y pwythau mor wahanol i unrhyw beth dwi wedi
gwneud o’r blaen. Yn ychwanegol mwynheais y ffrâm ‘goldwork’ am yr un
rheswm.
Wrth ddysgu’r technegau yma, mae pawb yn y grŵp yn gweithio gyda’r un
patrymau, ac yna ar ôl dysgu digon mae rhaid cymryd darluniad eich hun a
chreu, gan ddefnyddio’r dechneg. Yn y ffrâm pwythau craidd mae
darluniad fy hun yn eistedd yn y canol.
Dysgais yn y gwersi yma sut i gyflawni edrychiad manwl cywir a
traddodiadol o ran brodwaith. Cyn y gwersi, oeddwn i byth wedi gwneud
unrhyw frodwaith tri dimensiwn, neu wedi cyfri’r ffabric fel sydd angen
gwneud yn ‘blackwork’, yn ogystal â nifer o bwythau newydd a ffyrdd i
weithio gydag edau wahanol. Gyda’r wybodaeth yma rydym yn cael ein
hannog i ddefnyddio’r technegau yn ffyrdd unigryw yn ystod y prosiectau
unigol sy’n cael eu rhoi i ni. Defnyddiais ran o’r arian o’r gymdeithas ar y
prosiectau yma i brynu deunyddiau fel ar gyfer y camisol, defnyddiais ran
o’r arian hefyd i dalu tâl stiwdio sy’n rhoi deunyddiau ar gyfer y gwersi
pwyth technegol i ni.
Ar y foment dwi’n gweithio ar ffrâm arall ‘goldwork’, yr amser yma rydym
yn dysgu mwy o dechnegau yn ogystal â datblygu ar waith blwyddyn
ddiwethaf wrth ychwanegu lliw a hefyd gwrthrychau
amrywiol. Dwi’n mwynhau hyn ar hyn o bryd, mae’n teimlo fel ffordd
greadigol i ddefnyddio’r dechneg.
Y prosiect dwi’n gweithio ar y foment yw cyfres o samplau brodwaith ar
gyfer casgliad ffasiwn ar gyfer dynion, wedi ysbrydoli gan lwyau cariad
Cymraeg. Dros yr haf roedd prosiect wedi gosod i
archwilio’r thema o gasgliadau o wrthrychau, ymwelais ag Amgueddfa
Caerfyrddin i weld eu casgliad o lwyau cariad yn ogystal ag edrych ar rhai o
fy nheulu. Cefais fy nenu i’r gwrthrychau yma oherwydd eu harddwch
amlwg ond hefyd teimlad o ddirgelwch o ran eu hoedran a’r straeon
cyfrinachol maen nhw’n cario.
Diolch eto am eich cymorth dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd yr arian yn
help mawr wrth brynu deunyddiau o safon, hefyd cefais i’r arian i ymweld
ag arddangosfeydd celf a thecstilau hynod o ddiddorol, fel enghraifft Hilma
af Klimt yn y Tate Fodern, ‘Crown to Couture’ ym Mhalas Kensington ac
eraill wnaeth fy ysbrydoli. Oherwydd eich haelfrydedd oedd amser gen i i
ffocysu ar fy ngwaith gan fod dim angen rhannu amser rhwng gweithio
swydd rhan amser a phrifysgol. Arhosais yn Llundain ar ôl gorffen tymor i
wneud profiad gwaith byr yn ‘Cosprop’ sef storfa gwisgoedd ar gyfer ffilm
a theledu, roedd yr arian yn help mawr wedyn hefyd.
Dwi’n gobeithio gallwn barhau'r perthynas yma, roeddwn i’n falch i glywed
am eich cymdeithas, a byddaf yn gadael i chi wybod sut mae’r prosiect yn
datblygu, hoffwn ddysgu mwy am eich gwaith chi hefyd.
Dymuniadau gorau,
Lowri James.
Adroddiad Lleuwen Dafydd ar
gyfer Cymdeithas Brodwaith
Cymru.
Braint oedd cael ennill yr ysgoloriaeth eleni a hynny
tra’n astudio fy nghwrs sylfaen Celf a Dylunio yng
Ngholeg Celf Caerfyrddin. Rwyf bellach yn fy
mlwyddyn gyntaf yn astudio gradd Tecstiliau ym
Mhrifysgol Manceinion ac mae’r cyfle hwn wedi
galluogi i mi ehangu fy sgiliau dylunio gan gyflwyno
ongl newydd i mi o greu a datblygu fy syniadau.
Rwy’n mwynhau pob agwedd o’r cwrs hyd yma sy’n
caniatau i mi fedru arbrofi ag amryw o arddulliau
newydd o greu a chan dderbyn mewnbwn ac
arweiniad newydd gan y Tiwtoriau sydd ar flaen eu
maes. Agwedd newydd i mi eleni yn y cwrs oedd y
cylfe i arbrofi a llifo ‘dyes’ a chyfansoddiad lliwiau
drwy gemegion a deunyddiau naturiol sydd o
ddiddorbeb mawr i mi ac un rwyf am arbrofi
ymhellach.
Cefais hefyd y cyfle i arbrofi â dulliau
gwehyddu(‘weave’ (a gwau a hynny ar beirianau
domestig. Mae hyn yn ychwanegu at fy nealltwriaeth
flaenorol a dderbynniais tra ar y cwrs Sylfaen. Er
hyn mae’r defnydd o frodwaith rhydd ar y peiriant
yn gysonyn yn fy ngwaith. Rwy’n hynod ffodus fod y
cyfleusterau brodwaith yn y brifysgol yn eang iawn.
Er hyn rhaid cyfaddef fod yr hyn a ddysgais tra’n
astudio’r pwnc yn y chweched dosbarth ac yna ar y
cwrs sylfaen wedi bod o fudd mawr i mi, fel
dylunydd ar safon lefel gradd. A finne hanner ffordd
drwy’r flwyddyn gyntaf galluoga’r ysgyloriaeth a'r
rhodd ariannol i mi fedru ariannu’r ffabrigau a’r
deunyddiau sy’n ofynnol i mi er mwyn medru parhau
i arbrofi a chreu yn ystod y prosiectau ar y cwrs. Ac
rwy’n hynod werthfawrogol o’r gefnogaeth yma ac
yn ddiolchgar i’r gymdeithas.
Manylion cyswllt e-bost: lleuwen.dafydd@gmail.com